Trist wyf a'm calon fel y plwm,
   Be' fyddai ystyr hyn?
   Rhyw chwedl hen ers talwm,
   A ddeil fy nghof mor dynn.
   Mae'r awyr yn oer ac mae'n nosi,
   A llifa'r Rhein lonydd;
   Mae copa'r mynydd yn gloywi,
   Yn heulwen diwedd dydd.
  
   Wele forwyn deg yn eistedd
   Yn rhyfeddod uwch ben,
   Mewn fflach o gemwaith aur yn gorwedd,
   Yn cribo aur ei phen;
   Ā chrib o aur y criba'i thresi,
   A chanu cān wrth wneud;
   A hud a thrais ei melodi,
   Ni allai neb rhagddweud.
  
   Y llongwr yn ei gwch brau,
   a gym'rir mewn gwayw cry';
   Ni wylia rhag y creigiau,
   Ond syllu a wna tua'r fry.
   Ac wedyn y tonnau sy'n llyncu
   Y llongwr a'r llong yn ddiau,
   A dyna'r hyn trwy ei chanu,
   A wnaeth y Loreley.
  
   Anna Timby is linguiste, en spreekt Nederlands, Duits, Engels, Frans,Chinees en Welsh.
   Zij heeft op verzoek van haar kennis Martien v Geffen (deelnemer aan de nieuwsgroep nl.taal) 
   het Loreley-lied vertaald in haar landstaal, dat is CYMRAEG, de taal van CYMRU (Wales in
   Engels).
   Anna Timby woont in een kleine stad in noordWales, Dolgellau.